Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Chwefror 2013
Adroddiad ar yr amserlen ar gyfer ystyried y Bil Teithio Llesol
(Cymru)
1. Ar 18 Chwefror 2013, cafodd Bil Llywodraeth, ‘Bil Teithio Llesol (Cymru)’, ei gyflwyno yn y Cynulliad.
2. Ar 5 Chwefror 2013, cytunodd y Pwyllgor Busnes, yn unol â Rheol Sefydlog 26.9, i gyfeirio’r Bil at y Pwyllgor Menter a Busnes, er mwyn iddo ystyried yr egwyddorion cyffredinol a chyflwyno adroddiad arnynt.
3. Yn unol â Rheol Sefydlog 26.7, trefnodd y Pwyllgor Busnes amserlen i’r Pwyllgor ystyried egwyddorion cyffredinol y Bil a chytunodd y dylai’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad i’r Cynulliad erbyn 24 Mai 2013.
4. Cytunodd y
Pwyllgor Busnes hefyd y dylid cwblhau trafodion Cyfnod 2 erbyn 19
Gorffennaf 2013, ar yr amod bod y Cynulliad yn cytuno ar
egwyddorion cyffredinol y Bil.